James 1:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr y neb a edrycho ar honn sy perffaith cyfraith rrydit, ac a erys ynthei, can nad ydiw ef wrādawr gwallgovus, eithr gweith red wr y weithred, happus fydd yn eu waith red.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr hwn a ymgrymmodd i edrych yn y gyfraith berffaith, cyfraith rhyddid, ac a barhaodd ynddi, wedi myned nid yn wrandawr anghofus, eithr yn wneuthurwr gweithred, hwn, dedwydd yn ei wneuthuriad fydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y neb a syllo ar berffaith gyfraith rhyddid, a pharhau felly, heb fod yn wrandawr anghofus, eithr yn wneuthurwr gweithgar, dedwydd fydd hwnnw yn ei waith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid, ac a barhao ynddi, hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond gwneuthurwr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r un sy'n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn wahanol. Dydy'r sawl sy'n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi ei glywed; mae'n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae'n ei wneud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond am y sawl a roes sylw dyfal i berffaith gyfraith rhyddid ac a ddaliodd ati, a dod yn weithredwr ei gofynion, ac nid yn wrandawr anghofus, bydd hwnnw yn ddedwydd yn ei weithredoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr hwn sydd yn edrych yn eiddgar i'r Gyfraith berffaith, sef Cyfraith rhyddid, ac yn parhau felly, gan fod nid yn wrandâwr anghofus ond yn wneuthurwr egniol, hwn a fydd dedwydd yn ei waith.