James 1:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O chymer neb yn ych mysc chwi arno y vod yn grefyddawl, ac nid attalio eu davod, eithyr twyllaw eu galou eu hun, crevydd hwn vv ys ouer yvv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os yw neb yn meddwl ei fod yn wasanaethwr crefyddol, heb ffrwyno ei dafod, eithr yn twyllo ei galon, gwasanaeth crefyddol hwn sydd ofer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O thyb neb ei fod yn ddefosiynol, heb ffrwyno’i dafod, ond twyllo’i galon ei hun, ofer fydd defosiwn hwnnw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol, heb atal ei dafod, ond twyllo'i galon ei hun, ofer yw crefydd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, mae'n twyllo'i hun — dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau'n methu ffrwyno'i dafod, ac yn wir yn twyllo'i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os yw neb yn meddwl ei hun ei fod yn grefyddol, heb ffrwyno ei dafod, ond yn twyllo ei galon, ofer yw crefydd hwnnw.