James 1:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Crevydd pur a’ difrych eulyd gar bron Dyw, ar tad, yw hynn, ymweled ar ymddifaid, ar gwragedd-gweddwonn yn eu hadfyd, ay ymgadw i hun yn ddifrych eulyd o ddiwrth y byd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwasanaeth crefyddol pur a dihalog ger bron Duw a’ r Tad yw hwn, sef ymweled â phlant amddifaid a gwragedd gweddwon, yn eu gorthrymder, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Defosiwn pur a dihalog yng ngolwg Duw a’r Tad yw hyn: gofalu am yr amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a'r Tad, yw hyn; Ymweled â'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydy'r grefydd sy'n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy'n dioddef, ac sy'n gwrthod dylanwad y byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Crefydd bur a dihalog gerbron Duw a'r Tâd yw hyn: ymweled â'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.