James 1:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bydd ar neb aysie doythineb, arched can Ddyw, sy yn rroi yn hayl ionus i bawb, ac nis gorafun y neb, ac ef ay rroir iddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os yw neb o honoch ar ol am ddoethineb, gofyned gan Dduw, yr Hwn sy’n rhoddi i bawb yn haelionus, ac nid yw’n dannod, a rhoddir iddo:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond od oes ar neb ohonoch ddiffyg doethineb, gofynned gan Dduw, sy’n rhoddi i bawb yn rhad, ac heb ddanod, ac fe’i rhoddir iddo:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy'n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os oes un ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe'i rhoddir iddo, oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os yw neb o honoch yn ddiffygiol mewn doethineb, ceisied gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi i bawb yn ddiamodol ac heb ddannod, a rhoddir iddo.