James 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pwy bynac a gatwor gyfraith y gyd ac a ballo mewn vn pvvnc, may ef yn euog or cwbl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys y neb sydd a’r holl Gyfraith yn cael ei chadw ganddo, ond tripio o hono mewn un pwngc, o’r oll yr aeth yn euog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd, a thramgwyddo mewn un peth, euog fydd o’r cwbl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pwy bynnag a gadwo'r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o'r cwbl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri'r Gyfraith i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pwy bynnag a gadwodd holl ofynion y Gyfraith, ond a lithrodd ar un peth, yn euog o dorri'r cwbl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy bynnag a gadwo y Gyfraith i gyd oll, ac a dripio mewn un pwynt, y mae wedi myned yn euog o'r cwbl.