James 2:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid y neb a ðyfod, Ni wnei di g odineb, a ðyfod hevyd, Ny leði. Os bydd i ti na wnelych odineb, ac etto lladd, y ðwyt yn trosseðwr y gyfraith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys yr Hwn a ddywedodd, “Na odineba,” a ddywedodd hefyd, “Na ladd;” ac os godinebu nad wyt, ond yn lladd, yn droseddwr y Gyfraith yr aethost.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, hefyd a ddywedodd, Na ladd. Ac oni odinebi, eithr lladd ohonot, ti fyddi droseddwr cyfraith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu'r gyfraith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Duw “Paid godinebu” (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio”. Felly os wyt ti'n lladd rhywun, rwyt ti wedi torri'r Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r un a ddywedodd, "Na odineba", wedi dweud hefyd, "Na ladd". Os nad wyt yn godinebu, ond eto yn lladd, yr wyt yn droseddwr yn erbyn y Gyfraith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr hwn a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, ond a leddi, yr wyt wedi myned yn droseddwr y Gyfraith.