James 2:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa les, vymrodyr, o dowaid neb fod cantho ffydd ac eb vot gantho weithredoedd? a ddychon y ffydd honno eu iachau ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth yw’r llesad, fy mrodyr, os dywaid neb, Y mae ffydd genyf, ond gweithredoedd heb fod ganddo? A ddichon ffydd ei gadw ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa les, fy mrodyr, ddywedyd o neb fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A ddichon ei ffydd ei achub ef?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd, beth ydy'r pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dyna'r math o ‛gredu‛ sy'n achub rhywun?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fy nghyfeillion, pa les yw i rywun ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all y ffydd honno ei achub?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa lesâd yw, fy mrodyr, os dywed neb fod ganddo ffydd, ond heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon y ffydd honno ei gadw ef?