James 2:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ doydet o vn o honoch wrthynt, Ewch er nawð Dyw, ymdwym n wch, ac ymlenwch, at etto heb roddi vddynt anghenrreidiaur corph, pa les fydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac mewn eisiau ymborth beunyddiol, a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, a llanwer chwi, ond heb roddi o honoch iddynt y pethau angenrheidiol i’r corph, pa beth yw’r llesad?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedyd o un ohonoch wrthynt, “Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch ac ymddigonwch,” eithr heb roddi iddynt reidiau’r corff, pa les hynny?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau'r corff; pa les fydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yna'n dweud, “Pob bendith i ti! Cadw'n gynnes, a gobeithio cei di rywbeth i'w fwyta.” Beth ydy'r pwynt os ydych chi'n ei adael yno heb roi dim byd iddo?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac un ohonoch yn dweud wrthynt, "Ewch, a phob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd", ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau'r corff, pa les ydyw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymwch ac ymborthwch; a chwi heb roddi iddynt angenrheidiau y corph, pa lesâd fydd?