James 2:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr rryw vn a ddowaid, Tydi ffydd sy cennyt minnau gweithredoedd sy gennyf: dangos di i mi dy ffydd wrth dy weithredoedd, a mi a ddangosa yt fy ffydd wrth fyngweithredoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr fe ddywaid rhyw un, Tydi wyt a ffydd genyt; ac myfi wyf a gweithredoedd genyf: dangos i mi dy ffydd yn wahan oddiwrth dy weithredoedd; ac myfi a ddangosaf i ti, trwy fy ngweithredoedd, fy ffydd i.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr dywed rhywun: “Ffydd sydd i ti, a gweithredoedd i minnau.” Dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau, dangosaf iti fy ffydd o’m gweithredoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn mae rhywun yn dadlau “Mae gan rai pobl ffydd ac mae eraill yn gwneud daioni.” A dw i'n ateb, “Wyt ti'n gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim? Dw i'n dangos fy mod i'n credu drwy beth dw i'n ei wneud!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond efallai y bydd rhywun yn dweud, "Ffydd sydd gennyt ti, gweithredoedd sydd gennyf fi." o'r gorau, dangos i mi dy ffydd di heb weithredoedd, ac fe ddangosaf finnau i ti fy ffydd i trwy weithredoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond dywed rhyw un, Tydi ffydd sydd gennyt, a minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd ar wahan oddi wrth dy weithredoedd, a minnau a ddanghosaf i ti trwy fy ngweithredoedd fy ffydd innau.