James 2:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Credu i ddwytti may vn Dyw y sydd: da rwyt arno: y diawlaid hefyd a y credant ac a grynant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tydi wyt yn credu mai un yw Duw: da yr wyt yn gwneuthur; a’r cythreuliaid a gredant, ac a arswydant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Credu yr wyt ti mai un yw Duw? Gwych y gwnei: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu — ac yn arswydo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt ti'n credu mai un Duw sy'n bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyt ti'n credu bod Duw yn un. Da iawn! Y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu hynny, ac yn crynu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyt ti yn credu mai un yw Duw, da yr wyt yn gwneuthur: y mae y cythreuliaid hefyd yn credu ac yn arswydo?