James 2:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit os daw i mewn ich cwmpeniaeth chwi, gwr yn arwain modrwy aur ac mewn dillad gwchion, a dyvot gwr tlawd hevyd mewn dillad gwael ion,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os daw i mewn i’ch cynnull-fan ŵr â modrwy aur, mewn gwisg ddisglaer, a dyfod i mewn hefyd o dlodyn mewn gwisg fudr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys o daw i’ch cynulliad ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd ŵr tlawd mewn gwisgoedd budron,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid os daw i mewn i'ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o'ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bwriwch fod dyn modrwy aur a dillad crand yn dod i'r cwrdd, a bod dyn tlawd mewn dillad carpiog yn dod hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd os daw i mewn i'ch cyfarfod ŵr a modrwy aur mewn gwisg ddisgleirwych, a dyfod i mewn hefyd ddyn tlawd mewn gwisg wael;