James 2:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr vn ffunyt Raab y puttain onid o weithredoedd i cyfiownwyd hi, pan dd erbyniodd hi y cenaday, ay danfon ymaith ffordd arall?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr un ffunud, Rahab hefyd, y buttain, onid trwy weithredoedd y’i cyfiawnhawyd, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn yr un ffunud, Rahab y butain hithau, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, wrth dderbyn ohoni’r cenhadau a thrwy ffordd arall eu gollwng ymaith?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi'r cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I roi enghraifft hollol wahanol meddylia am Rahab y butain; onid beth wnaeth hi ddaeth â hi i berthynas iawn gyda Duw? Rhoddodd groeso i'r ysbiwyr a'u cuddio nhw, ac wedyn eu hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd wahanol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr un modd hefyd, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd Rahab, y butain, pan dderbyniodd hi'r negeswyr a'u hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd arall?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr un modd hefyd Rahab y butain, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhâwyd hi, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall?