James 2:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ystyriaeth o honoch ar y neb sy yn arwain dillad gwchion, a doedet wrtho, Eiste di yma mewn lle da, a doydet wrth y tlawd, Sa di yna, neu eistedd yma islaw fy stol droed,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac edrych o honoch ar yr hwn sydd wedi ymwisgo â’r wisg ddisglaer, a dywedyd, Tydi, eistedd yma mewn lle da, ac wrth y tlodyn y dywedoch, Tydi, saf accw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac edrych ohonoch ar y gŵr â’r dillad gwychion, a dywedyd: “Eistedd di yma yn dda dy le,” ac wrth y tlawd ddywedyd: “Saf dithau yna, neu, eistedd is law fy stôl droed i,”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo'r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Petaech chi'n rhoi'r sylw i gyd i'r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma'r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bwriwch eich bod chwi'n talu sylw i'r un sy'n gwisgo dillad crand, ac yn dweud wrtho ef, "Eisteddwch yma, os gwelwch yn dda"; ond eich bod yn dweud wrth y dyn tlawd, "Saf di fan draw, neu eistedd wrth fy nhroedfainc."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chymeryd o honoch sylw o'r hwn sydd yn gwisgo y wisg ddisgleirwych, a dywedyd, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y dyn tlawd, Saf di yna, neu eistedd îs law fy ystol‐droed i;