James 2:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O ni dychi ynoch ych hunain yn gwneuthur dosparth, ac aythoch yn vrowdwyr brodiau drwg?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
neu eistedd is law fy ’stol-droed, oni wahanwyd chwi yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr drwg eu meddyliau?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oni wnewch ynoch eich hunain ragor rhwng y naill â’r llall, ac oni byddwch farnwyr yn ôl drwg ddadleuon?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na'r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi'n anghywir?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid ydych yn anghyson eich agwedd ac yn llygredig eich barn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ai nid ydych wedi gwneud gwahaniaeth yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr gyda meddyliau drwg?