James 2:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwrandewch fymrodyr credigawl, oni ddewisodd Dyw tlodion y byd hwnn, y vod yn gowaethogion mewn ffydd, ac yn ytyfeddion ir dyrnas rron a addawodd ef ir rrai ay car ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwrandewch, fy mrodyr anwyl; oni fu i Dduw ddewis y tlodion yn y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu Ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwrandewch, fy mrodyr annwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i’r rhai a’i caro?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl sy'n dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wedi eu dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhw'n cael rhannu yn y deyrnas mae wedi ei haddo i'r rhai sy'n ei garu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywch, fy nghyfeillion annwyl. Oni ddewisodd Duw y rhai sy'n dlawd yng ngolwg y byd i fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i'r rhai sydd yn ei garu?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwrandêwch, fy mrodyr anwyl; Oni ddewisodd Duw y tlodion yng ngolwg y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y Deyrnas yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?