James 2:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr i ddychi yn dyrmugu yr tlawd. Onid ydynt y cywaythogion yn ych gorthrymmu‐chwi wrth trowsder] ac anyd ynt wy yn ych tynnu chwi gar bronn y frowdfainc?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond chwychwi a ddianrhydeddasoch y tlodyn! Onid y rhai goludog sy’n tra-arglwyddiaethu arnoch, a hwynt-hwy sydd yn eich llusgo ger bron brawdleoedd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr chwithau, dibrisio’r tlawd a wnaethoch. Onid y cyfoethogion sydd yn gormesu arnoch a’ch llusgo i’r brawdleoedd eu hunain?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw'r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dych chi'n amharchu'r tlawd! Y cyfoethog ydy'r bobl sy'n eich cam-drin chi! Onid nhw sy'n eich llusgo chi o flaen y llysoedd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto rhoesoch chwi anfri ar y dyn tlawd. Onid y cyfoethogion sydd yn eich gormesu chwi, ac onid hwy sydd yn eich llusgo i'r llysoedd?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr chwi a ddianrhydeddasoch y tlawd. Onid yw y rhai goludog yn arglwyddiaethu arnoch, a hwynt‐hwy sydd yn eich llusgo gerbron llysoedd?