James 2:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr os cyflownwchi y frenhinawl gyfraith, ar ol yr yscrythyr, rron a ddyvvait, Car dy gymydawc yn gymaint a thi dy hun, ys da i gwnewch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Beth bynnag, os y gyfraith frenhinol a gyflawnwch, yn ol yr Ysgrythyr, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun,” da yr ydych yn gwneuthur;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn wir, os cyflawni’r gyfraith frenhinol yr ydych, yn ôl yr ysgrythur: Câr dy gymydog fel ti dy hun, da y gwnewch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydych chi'n ufudd i orchymyn pwysica'r ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun,” da iawn chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth gwrs, os cyflawni gofynion y Gyfraith frenhinol yr ydych, yn unol 'r Ysgrythur, "Cr dy gymydog fel ti dy hun", yr ydych yn gwneud yn ardderchog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os, yn wir, yr ydych yn cyflawnu y gyfraith frenhinol yn ol yr Ysgrythyr, Câr dy gymydog fel ti dy hun, da yr ydych yn gwneuthur.