James 2:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr os ystyriwchi berson‐ dyn, y ddych yn gwnethyr pechod, ac ych yn cael cerydd can y gyfraith, mal troseddion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond os derbyn gwyneb yr ydych, pechod yr ydych yn ei wneud, yn cael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megis troseddwyr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr os derbyn wyneb yr ydych, pechod a wnewch, ac fe’ch condemnir gan y gyfraith fel troseddwyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydych chi'n dangos ffafriaeth dych chi'n pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chi'n droseddwr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os ydych yn dangos ffafriaeth, cyflawni pechod yr ydych, ac yng ngoleuni'r Gyfraith yr ydych yn droseddwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os derbyn‐wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, gan gael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megys troseddwyr.