James 3:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Or vn genau i daw allan bendith a melltith: fymrodyr ni ddylaynt y pethay hyn fod felly.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O’r un genau, dyfod allan y mae bendithiad a melldithiad! Ni ddylai, fy mrodyr, y pethau hyn fod felly.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O’r un genau y daw allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai bod y pethau hyn felly.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O'r un genau y mae'n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai'r pethau hyn fod felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae bendith a melltith yn llifo o'r un geg! Ddylai hi ddim bod felly, frodyr a chwiorydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
o'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O'r un genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith. Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly.