James 3:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A ðyry ffynnon or vn man ddwr melus, a’ chwerw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A ydyw ffynnon, o’r un llygad, yn tywallt allan yr hyn sydd felus a’r hyn sydd chwerw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A fwrw’r ffynnon allan o’r un llygad y melys a’r chwerw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ydyw ffynnon o'r un llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy dŵr glân a dŵr hallt yn tarddu o'r un ffynnon?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A welir du373?r peraidd a du373?r chwerw yn tarddu o lygad yr un ffynnon?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A ydyw ffynnon yn bwrlymu allan o'r un agoriad y melus a'r chwerw?