James 3:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy sy wr doeth a gwybodaeth cantho yn ych mysc chwi? dangosed trwy ymwereddiad da eu weithredoedd mewn rrowiogrwydd doythineb.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? Dangosed, trwy ei ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pwy sydd ddoeth a chyfarwydd yn eich plith? dangosed ei weithredoedd trwy ymarweddiad glân ym mwyneidd-dra doethineb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy ohonoch chi sy'n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall? Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae'n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni heb frolio am y peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy sy'n ddoeth a deallus yn eich plith? Gadewch i hwnnw, trwy ei ymarweddiad da, ddangos ei weithredoedd mewn gwyleidd-dra sy'n dod o ddoethineb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? danghosed trwy ei ymarweddiad da ei weithredoedd mewn mwyneidd‐dra doethineb.