James 3:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr o bydd cenychi cenfigen chwerw, ac ymryson yn ych calonay, nac ymlawenhewch, ac na fyddwch celwyddog yn erbyn y gwirionedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os eiddigedd chwerw a chynnen sydd genych yn eich calon, nac ymffrostiwch, a chelwyddu,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr os cenfigen chwerw ac ymryson sydd gennych yn eich calon, nac ymffrostiwch ac na thraethwch gelwydd yn erbyn y gwirionedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydych chi'n llawn cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol does gynnoch chi ddim lle i frolio, am fod peth felly yn gwbl groes i'r gwirionedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os ydych yn coleddu eiddigedd chwerw ac uchelgais hunanol yn eich calon, peidiwch ag ymffrostio a dweud celwydd yn erbyn y gwirionedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond od oes gennych eiddigedd chwerw ac ymbleidiaeth yn eich calon, nac ymffrostiwch ac na fyddwch gelwyddog yn erbyn y gwirionedd.