James 3:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys mewn llawer o bethay y ddym ni pawb yn llithro. O byð y neb na lithro ar air, hwnw sy wr perffaith, ac a ddichin ffrwynor holl corph.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys llawer tripiad a wnawn, yr oll o honom; ac os ar air na thripia neb, hwnw sydd ŵr perffaith, yn gallu ffrwyno’r holl gorph hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys mynych y llithrwn ninnau bawb. Od oes neb heb lithro mewn gair, gŵr cyflawn fydd hwnnw, yn abl i ffrwyno’r holl gorff hefyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno'r holl gorff hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau. Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o'i le byth, dyna i chi berson perffaith! Rhywun sy'n gallu rheoli ei hun yn llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae mynych lithriad yn hanes pawb ohonom. Os gall rhywun ymgadw rhag llithro yn ei ymadrodd, dyma un perffaith, 'r gallu ganddo i ffrwyno ei holl gorff hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni oll yn tripio. Od oes neb heb dripio mewn ymadrodd, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno hefyd yr holl gorph.