James 3:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nycha hevyd y llongay, rrain cyd bont mowrion, a gwynt creulawn yw gyru, etto i troi hwynt o amgylch a wneir a llyw bychan bach, lle i mynnor llowydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, y llongau hefyd, a hwy mor fawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, a droir o amgylch â llyw bychan iawn, lle y mae tuedd y llywydd yn ewyllysio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wele’r llongau hwythau, er eu maint, ac er eu hyrddio gan wyntoedd geirwon, troir hwy oddi amgylch â llyw bychan bach, lle mynno ysgogiad y llywydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno'r llywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A gyda llongau mawr sy'n cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, llyw bach iawn sydd ei angen i'r peilot eu troi nhw i ble bynnag mae'n dewis mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A llongau yr un modd; hyd yn oed os ydynt yn llongau mawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, gellir eu troi llyw bychan iawn i ba gyfeiriad bynnag y mae'r peilot yn ei ddymuno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele hefyd y llongau, a hwy mor fawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, a droir o amgylch â'r llyw lleiaf, lle y mynno tuedd y llywiwr.