James 3:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r tavawd tan ydyw, ie byd o enwiredd: velly i gosodet y tavawd y mysc ein ayloday, mal y llygra ef yr holl corph, yn fflamhau troell naturieth, ac yn fflamedic can vffern.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r tafod sydd dân; y byd o anghyfiawnder, y tafod, sydd yn ein haelodau, yr hwn sy’n halogi’r holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac yn cael ei osod yn fflam gan Gehenna.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r tafod, tân yw; byd o anghyfiawnder yw’r tafod, yn hanfod ymhlith ein haelodau, ac y sy’n halogi’r holl gorff, ac yn tanio cylch anian, a Gehnna yn ei danio yntau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae'r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi'r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A fflam felly ydy'r tafod! Mae'r tafod yn llawn drygioni, ac o blith holl rannau'r corff, hwn ydy'r un sy'n gallu llygru'r bersonoliaeth gyfan. Mae'n gallu dinistrio holl gwrs ein bywyd ni! Mae'n fflam sydd wedi ei thanio gan uffern!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thn yw'r tafod; byd o anghyfiawnder ydyw, wedi ei osod ymhlith ein haelodau, yn halogi'r corff i gyd, ac yn rhoi holl gylch ein bodolaeth ar dn wrth iddo ef ei hun gael ei roi ar dn gan uffern.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r tafod sydd dân; byd o anghyfiawnder wedi ei osod ym mhlith ein haelodau yw y tafod, yr hwn sydd yn llychwino yr holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac yn cael ei osod yn fflam gan Gehenna.