James 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cans holl natur ynifeiliaid, ac adar, ac ymlusciaid, a’r petheu yn y mor a ddofir ac a ddofwyd can natur ddyniol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pob math o wyllt-filod ac ehediaid, ac o gropiedyddion, a phethau yn y môr, sy’n cael eu dofi, ac wedi cael eu dofi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dofir a dofwyd pob rhywogaeth o wylltfilod ac ednod ac ymlusgiaid a chreaduriaid môr gan y rhywogaeth ddynol,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a'r pethau yn y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl yn gallu dofi pob math o anifeiliaid ac adar, ymlusgiaid a physgod,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r hil ddynol yn gallu rheoli pob math o anifeiliaid ac adar, o ymlusgiaid a physgod; yn wir, y mae wedi eu rheoli.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pob rhywogaeth o wylltfilod ac ehediaid, o ymlusgiaid ac anifeiliaid y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan ddynolryw;