James 4:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O Ble y may y rryfeloedd a’r ymladdau yn ych plith chwi? onid oðiwrth hynn, sef ych trachwantay, rrai ynt yn ymwan yn ych aylodau?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O ba le y mae rhyfeloedd, ac o ba le ymladdau yn eich plith? Onid oddi yma, o’ch melus-chwantau y sy’n milwrio yn eich aelodau?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O ba le y mae rhyfeloeodd, ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith? onid o hyn, o’ch blysiau sydd yn rhyfela yn eich aelodau?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth sy'n gyfrifol am yr holl frwydro a'r gwrthdaro sy'n eich plith chi? Onid yr ymdrech barhaus i fodloni'r hunan ydy'r drwg?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O ble y daeth ymrafaelion a chwerylon yn eich plith? Onid o'r chwantau sy'n milwrio yn eich aelodau?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O ba le y mae rhyfeloedd ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith, onid o hyn yma, o'ch melus‐chwantau, y rhai sydd yn milwrio yn eich aelodau?