James 4:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na ddoydwch yn erbyn y gilidd, fym rodyr. Y neb a ddyweto yn erbyn i frawd, ac hwn a farno eu frawd, y may yn doydyt yn erbyn y gyfraith, ac yn barnur gyfraith: ac os wytti yn barnur gyfraith, nid y dwytti yn gyflownwr cyfraith, namyn browdwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na leferwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Yr hwn sy’n llefaru yn erbyn brawd, neu yn barnu ei frawd, llefaru yn erbyn y Gyfraith y mae, ac yn barnu’ r Gyfraith; ac os y Gyfraith a ferni, nid wyt wneuthurwr y Gyfraith, eithr ei barnwr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na ddywedwch yn ddrwg am eich gilydd, frodyr; y neb a ddywedo’n ddrwg am frawd, neu a farno’i frawd, dywedyd yn ddrwg y ddeddf a ferni, nid wyt ti wneuthurwr y ddeddf, eithr barnwr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu'r gyfraith: ac od wyt ti yn barnu'r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch siarad yn ddirmygus am eich gilydd frodyr a chwiorydd. Mae'r un sy'n dirmygu neu'n beirniadu brawd neu chwaer, yn dirmygu ac yn beirniadu Cyfraith Duw. Barnu'r Gyfraith dych chi'n ei wneud wrth feirniadu pobl eraill, dim cadw'r Gyfraith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch dilorni eich gilydd, gyfeillion; y mae'r sawl sy'n dilorni rhywun arall, neu'n ei farnu, yn dilorni'r Gyfraith ac yn barnu'r Gyfraith. Ac os wyt ti yn barnu'r Gyfraith, yna nid gwneuthurwr y Gyfraith mohonot, ond ei barnwr hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na leferwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn llefaru yn erbyn brawd, neu yn barnu ei frawd, y mae yn llefaru yn erbyn y Gyfraith, ac yn barnu y Gyfraith; eithr od wyt ti yn barnu y Gyfraith, nid wyt wneuthurwr y Gyfraith, eithr ei barnwr.