James 4:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vn gosodwr cyfraith y sydd, rrwn a ddichin gadw, a cholli. Pwy ydwytti rrwn a ferni ar arall?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Un yw’r Cyfraith-roddwr a Barnwr, yr Hwn sy’n abl i achub ac i ddistrywio. Ond tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn barnu dy gymmydog?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Un sydd ddeddfwr a barnwr, yr hwn a ddichon waredu a dinistrio; a thithau, pwy wyt ti i farnu dy gymydog?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r Un sydd wedi rhoi'r Gyfraith i ni, Duw ei hun, ydy'r unig Farnwr go iawn. Fe sydd â'r gallu i achub a dinistrio, dim ti! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti yn barnu dy gymydog?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes ond un deddfroddwr a barnwr, sef yr un sy'n abl i achub a dinistrio. Pwy wyt ti i eistedd mewn barn ar dy gymydog?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Un yw'r Deddf‐roddwr a'r Barnwr, yr hwn a ddichon gadw a distrywio: ond pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu dy gymydog?