James 4:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Iddo ’nawr yr rai a ddoydwch, Heddiw neu fory ni awn i gyfryw ddinas, ac a arrosswn yno flwyddyn, ac a farchnattawn ac a ynnillwn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Deuwch yn awr, y rhai yn dywedyd, Heddyw, neu y foru, yr awn i’r ddinas hon; a threuliwn yno flwyddyn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dowch, ynteu, chwi sy’n dywedyd “Heddyw neu yfory, fe awn i’r ddinas a’r ddinas, a bwrw blwyddyn yno a marchnata ac elwa”,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch, chi sy'n dweud, “Awn i'r lle a'r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywch yn awr, chwi sy'n dweud, "Heddiw neu yfory, byddwn yn mynd i'r ddinas a'r ddinas, ac fe dreuliwn flwyddyn yno yn marchnata ac yn gwneud arian."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dêwch yn awr, chwi sydd yn dywedyd, Heddyw neu yfory ni a awn i'r ddinas hon, ac a dreuliwn yno flwyddyn, ac a farchnatâwn, ac a enillwn