James 4:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(Rrain ni wyddoch beth a fydd y vory. Cans beth ydiw ych enioes chwi? Tarth yn wir ydyw rrwn a ymddengys ychydig amser, a chwedi hyny a ddiflanna)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a marchnattawn, ac ennillwn, y rhai ni wyddoch yr hyn a berthyn i’r “foru;” (pa fath yw eich bywyd? Canys tarth ydych, yr hwn sydd am ychydig yn ymddangos, a chwedi’n yn diflannu;)
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chwithau heb wybod pa beth a fydd eich einioes yfory; canys tarth ydych, dros ychydig yn ymddangos ac yna yn diflannu;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth — mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes gan rai fel chwi ddim syniad sut y bydd hi ar eich bywyd yfory. Nid ydych ond tarth, sy'n cael ei weld am ychydig, ac yna'n diflannu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
— y rhai ni wyddoch ddim am yfory. Beth yw eich einioes chwi? Canys tarth ydych chwi, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac yna yn diflannu —