James 4:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny, y neb a wyr wneuthyr yn dda, ac niss gwnel, mewn pechod y may.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I’r hwn sy’n gwybod, gan hyny, pa sut i wneuthur daioni, ac nad yw yn ei wneuthur, yn bechod iddo ef y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, y neb wypo wneuthur da ac nas gwnêl, pechod yw iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny i'r neb a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly cofiwch, os dych chi'n gwybod beth ydy'r peth iawn i'w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi'n pechu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac felly, pechod yw i rywun beidio gwneud y daioni y mae'n gwybod y dylai ei wneud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
I'r hwn, gan hynny, sydd yn gwybod pa fodd i wneuthur daioni, ac nad yw yn ei wneuthur, pechod yw iddo.