James 4:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwennychu yddych, ac heb caffael: cenftgennu yddych, ac eiddigedd sy cenych, ac heb allu ymorddiwes: ymladd a’ rryvela y ddych, heb gael dim, am nad ydych yn govyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwennychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: lladd ac eiddigeddu yr ydych, ac ni ellwch gaffael: ymladd a rhyfela yr ydych. Nid ydych yn cael am nad ydych yn gofyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Chwenychu yr ydych, ac nid oes gennych ddim; lladd ac eiddigeddu yr ydych, ac ni ellwch gyrraedd; ymladd a rhyfela yr ydych; nid oes gennych ddim am nad ydych yn ceisio;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi eisiau rhywbeth ond yn methu ei gael. Mae'r ysfa yn gwneud i chi fod yn barod i ladd. Dych chi eisiau pethau ac yn methu cael gafael ynddyn nhw, felly dych chi'n ffraeo ac yn ymladd. Dych chi ddim yn cael am eich bod chi ddim yn gofyn i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych yn chwennych ac yn methu cael; yr ydych yn llofruddio ac eiddigeddu ac yn methu meddiannu; yr ydych yn ymladd a rhyfela. Nid ydych yn cael am nad ydych yn gofyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwenychu yr ydych ac nid ydych yn cael; lladd yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn alluog i gael; ymladd a rhyfela yr ydych. Nid oes gennych am nad ydych yn gofyn.