James 4:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ydychi yn tybiaid fod yr yscrythyr yn doydyt yn ofer, Yr ysbryd syn yn trigo ynomi ni, at genvigen y may ei chwant?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dybiwch chwi mai yn ofer y mae’r Ysgrythyr yn dywedyd? Ai at gynfigen yr hiraetha’r Yspryd, yr Hwn y gwnaeth Efe Iddo drigo ynom?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ai tybio ynteu yr ydych mai yn ofer y dywed yr ysgrythur: “hyd at eiddigedd yr hiraetha ef am yr ysbryd y parodd ei gartrefu ynom”?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer, At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi'n meddwl fod beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn ddiystyr: sef fod yr Ysbryd a roddodd i ni yn gwrthwynebu cenfigen?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Neu a ydych yn tybio nad oes ystyr i'r Ysgrythur sy'n dweud, "Y mae Duw'n dyheu hyd at eiddigedd am yr ysbryd a osododd i drigo ynom."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu a dybiwch chwi fod yr Ysgrythyr yn llefaru yn ofer? Yr Yspryd hwnnw a wnaeth efe i drigo ynom, y mae yn dyheu am danom hyd y nod i bwynt eiddigedd.