James 4:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr y may yr Scrythur yn cynnyc mwy o ras, ac am hynny yn doydyt, Dyw sy yn gwrthnebur bailch, ac yn rroi gras ir ei vfydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond gras mwy a rydd Efe: o herwydd paham y dywaid, Yn erbyn beilchion y mae Duw yn Ei osod Ei hun, ond i’r rhai gostyngedig y rhydd ras.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr rhoddi gras mwyfwy y mae. Am hynny y dywed: Saif Duw yn erbyn y beilchion, ond i’r gostyngedig y mae’n rhoddi gras.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu'r beilchion, ond yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae haelioni Duw yn fwy na hynny eto! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gras mwy y mae ef yn ei roi. Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr grâs mwy y mae yn ei roddi, o herwydd paham y dywed, Y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig.