James 4:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ymostyngwch am hyny y Ddyw: gwrthnebwch ddiawl, ac ef a gilia o ddiwrthych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ymddarostyngwch, gan hyny, i Dduw; ond gwrthsefwch ddiafol, a ffy oddiwrthych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny ymddarostyngwch i Dduw; sefwch yn erbyn diafol, a ffy yntau rhagoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, ymddarostyngwch i Dduw. Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ymddarostyngwch gan hynny, i Dduw, ond gwrthsefwch y Diafol, ac efe a ffy oddiwrthych.