James 4:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nessewch at Ddyw, ac ef a nessaa attoch. Glanhewch ych dwylo, chwi pechaduriaid, a’ phurwch ych calonnay, chwi ar meddwl dau ddyblig.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nesewch at Dduw, ac nesau attoch a wna Efe. Glanhewch eich dwylaw, bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi ddau-ddyblyg eich meddwl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Neshewch at Dduw, a nesha yntau atoch chwithau. Glanhewch eich dwylo, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl deublyg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â'r meddwl dauddyblyg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Closiwch at Dduw a bydd e'n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nesewch at Dduw, ac fe nes ef atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi bobl ddau feddwl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nesêwch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhêwch eich dwylaw, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi ddau‐ddyblyg eich meddwl.