James 4:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ymgospwch, ac alerwch, ac wylwch: bid yvvch troi ych chwerthin yn alar, a ch llywenydd yn dristwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ymgystuddiwch, a galerwch, a gwylwch. Bydded i’ch chwerthin ei droi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ymdrallodwch a galerwch ac wylwch: troer eich chwerthin yn alar, a’ch llawenydd yn bendristwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn dristwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dangoswch eich bod yn gofidio am y pethau drwg wnaethoch chi, dangoswch alar, ac wylwch. Trowch eich chwerthin yn alar a'ch miri yn dristwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tristewch a galarwch ac wylwch. Bydded i'ch chwerthin droi'n alar a'ch llawenydd yn brudd-der.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ymgystuddiwch, a galerwch, ac wylwch. Troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn brudd‐der.