James 5:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wele, dedwyddd y ddym yn gadel y rrai a ymoddefant. Chwi a glowsoch am ymynedd Iob, ac a welsoch y diwedd a vvnaeth yr Arglwydd. O blegit trathosturiol yw’r Arglwydd a’ thrugaroc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, bendigedig a gyfrifwn y rhai a oddefasant. Am amynedd Iob y clywsoch; a diwedd yr Arglwydd a welsoch, mai mawr Ei dosturi yw’r Arglwydd ac yn drugarog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele, dedwydd y cyfrifwn y rhai fu dda eu hamynedd; clywsoch am amynedd Job, a gwelsoch y diwedd a barodd yr Arglwydd, canys aml ei dosturi yw’r Arglwydd a thrugarog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw'r Arglwydd, a thrugarog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel dych chi'n gwybod, y rhai wnaeth ddal ati gafodd eu bendithio. Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy'r cwbl, a chofiwch beth wnaeth yr Arglwydd iddo yn y diwedd. Mae tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr ydym yn dweud mai gwyn eu byd y rhai a ddaliodd eu tir. Clywsoch am ddyfalbarhad Job, a gwelsoch y diwedd a gafodd ef gan yr Arglwydd; y mae'r Arglwydd mor dosturiol a thrugarog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, yr ydym yn cyfrif yn ddedwydd y rhai a oddefasant. Chwi a glywsoch am ddewrder Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd, oblegyd tirion iawn yw yr Arglwydd a thosturiol.