James 5:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr ymlaen pob peth, fymrodyr, na thyngwch, nac ir nef, nac ir ddayar, na llw arall amgen: eithr bid ych ief, yn ief, a ch nac ef, yn nac ef, rrac syrthio o honoch, mewn barn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, na myn y nef, na myn y ddaear, na neb rhyw lw arall; ond bydded eich ïe chwi yn ïe, a’ch nage yn nage, fel nad tan farn y syrthioch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch lw, na myn y nef, na myn y ddaear, nac un llw arall: ond bydded “ie” eich “ie” chwi, a “nage” eich “nage”, rhag syrthio ohonoch tan farn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a'ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac yn olaf, frodyr a chwiorydd: peidiwch byth tyngu llw — ddim i'r nefoedd nac i'r ddaear na dim arall. Dylai dweud “ie” olygu “ie”, a dweud “na” olygu “na”, wedyn chewch chi mo'ch cosbi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn anad dim, fy nghyfeillion, peidiwch thyngu llw wrth y nef, nac wrth y ddaear, nac wrth ddim arall chwaith. I'r gwrthwyneb, bydded eich "ie" yn "ie" yn unig, a'ch "nage" yn "nage" yn unig, rhag ichwi syrthio dan farn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaear, nac un llŵ arall; eithr bydded eich Ië chwi yn Ië, a'ch Nage yn Nage, fel na syrthioch dan farnedigaeth.