James 5:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A gweddi ’r ffydd a iachaar claf, ar Arglwydd ay cyfyd ef y fyny dd: ac o gwnaeth ef pechoday, hwynt a vaddeuir iddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ei enneinio ag olew yn enw’r Arglwydd, a gweddi ffydd a achub yr afiach, ac ei gyfodi a wna’r Arglwydd: ac os pechodau a wnaeth efe, maddeuir iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe iachâ gweddi eu ffydd hwynt y claf, a chyfyd yr Arglwydd ef: ac o bydd wedi pechu, maddeuir iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gweddi'r ffydd a iachâ'r claf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwnân nhw weddïo a chredu yn nerth Duw bydd y claf yn cael ei iacháu. Bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed, ac os ydy e wedi pechu, bydd yn cael maddeuant.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd gweddi a offrymir mewn ffydd yn iachu y sawl sy'n glaf, a bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed; ac os yw wedi pechu, fe gaiff faddeuant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gweddi y ffydd a adfer yr hwn sydd glaf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, fe faddeuir iddo.