James 5:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cyfaddefwch ych beie y naill ir llall, a gweddiwch tros y gilidd, y gael ych iachau: can ys llawer a dal gweddir cyfion, pan vo ffrwythlon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cyffeswch, gan hyny, i’ch gilydd eich pechodau; a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer: llawer a ddichon gweddi’r cyfiawn, yn ei gweithrediad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cyffeswch gan hynny eich pechodau i’ch gilydd, a gweddïwch y naill dros y llall, fel y’ch iachäer. Llawer, o’i ddodi ar waith, a ddichon deisyfiad y cyfiawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyffeswch eich camweddau bawb i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y'ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi'r cyfiawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i chi gael eich iacháu. Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gweddwch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iachd. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cyffeswch, gan hynny, eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y'ch iachâer. Llawer a ddichon gweddi y cyfiawn pan yn gweithredu yn nerthol.