James 5:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Elias dyn ydoedd or vn sut a ninay, ac yn eu weddi ydd archodd na bai glaw, ac ni bu glaw tair blynedd, a’ chwe ch mis.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Elias oedd ddyn o gyffelyb wŷniau a ni, a thaer-weddïodd na byddai gwlaw; ac ni fu gwlaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyn oedd Elïas o’r un sut a ninnau, ac mewn gweddi gweddïodd na byddai glaw, a glaw ni bu ar y ddaear dair blynedd a chwe mis.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyn cyffredin fel ni oedd Elias, a gweddïodd yn gyson iddi beidio glawio, a wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Elias yn ddyn o'r un anian ninnau, ac fe weddodd ef yn daer am iddi beidio glawio; ac ni lawiodd ar y ddaear am dair blynedd a chwe mis.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Elias oedd ddyn o gyffelyb anian a ninnau, ac efe a weddïodd yn ddifrifol na byddai gwlaw; ac ni bu gwlaw ar y ddaear dair blynedd a chwe' mis.