James 5:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwybyðed ef am y neb a droes y pechadur rrac mynd ar gyfeilorn o ddiar y ffordd, y vod ef yn cadw enaid rrac angay, ac yn kyscodi lliaws grvvydd o pechodau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gwybydded y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddiwrth gyfeiliornad ei grefydd, achub enaid o farwolaeth, a gorchuddio lliaws o bechodau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gwbyddwch y bydd i’r neb a droes bechadur o gyfeiliorni ei ffordd, gadw ei enaid ef rhag marwolaeth, a chuddio lliaws o bechodau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwybydded, y bydd i'r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lliaws o bechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
gallwch fod yn siŵr o hyn: bydd y person sy'n ei droi yn ôl o'i ffyrdd ffôl yn achub y pechadur rhag marwolaeth dragwyddol ac yn maddau lot fawr o bechodau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
boed iddo wybod hyn: bydd y sawl a drodd y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd yn achub ei enaid rhag angau, ac yn dileu lliaws o bechodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gwybyddoch y bydd i'r hwn a drodd bechadur o gyfeiliornad ei ffordd achub enaid rhag angau, a gorchuddio lliaws o bechodau.