James 5:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ych aur ach arian a rydodd, ay rrwd hwynt a fydd tyst yn ych erbyn, ac a yssa ych cnawd mal tan. Casclu trysawr a wnaythoch tros y dyddiau diwaytha.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eich aur a’ch arian a rydasant, ac eu rhwd fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac a fwytty eich cnawd fel tân. Trysorasoch yn y dyddiau diweddaf!
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
rhydodd eich aur a’ch arian, a bydd eu rhwd hwynt yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, a bwyty eich cnawd megis tân. Casglu trysor a wnaethoch yn y dyddiau diweddaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eich aur a'ch arian a rydodd; a'u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'ch aur a'ch arian chi'n rhydu, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. Cewch eich difa gan dân am gasglu cyfoeth i chi'ch hunain mewn byd sy'n dod i ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae eich aur a'ch arian wedi rhydu, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac yn bwyta eich cnawd fel tn. Casglu cyfoeth a wnaethoch yn y dyddiau olaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eich aur a'ch arian a rydodd; a'u rhŵd hwynt fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac a fwyty eich cnawd fel tân. Yr ydych wedi pentyrru trysorau yn y dyddiau ydynt ddiweddaf.