James 5:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wele, cyfloc y gweithwyr, rrain a fedasont ych meysyð (rrwn a attaliasoch trwy dwyll) sy yn crio a bloyddiay y rrai a fedassont, a entriassont y glustiau Arglwydd y byddinoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, cyflog y gweithwyr a fedasant eich meusydd, yr hwn a gam-attaliwyd, oddi wrthych y gwaedda; a bloeddiau y rhai a fedasant, i glustiau Iehofah y Tsabaoth y daethant i mewn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele, y mae cyflog y gweithwyr a fedodd eich meysydd, ac a ataliwyd gennych chwithau, yn llefain, a daeth bloeddiau’r fedel i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch! Mae'r cyflogau dych chi heb eu talu i'r gweithwyr yn gweiddi'n uchel. Mae Arglwydd y Lluoedd wedi clywed cri y rhai hynny fu'n casglu'r cynhaeaf yn eich caeau chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywch! Y mae'r cyflogau na thalasoch i'r gweithwyr a fedodd eich meysydd yn gweiddi allan; ac y mae llefain y medelwyr yng nghlustiau Arglwydd y Lluoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, y mae cyflog y gweithwyr a fedasant eich meusydd, yr hwn a gadwyd yn ol o'ch rhan chwi, yn llefain allan; a gwaedd y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y Lluoedd.