James 5:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny, vym rodyr, byddwch ymarhoys, hyd devodiad yr Arglwydd. Synna, y llafurwr a ddiscwyl am wyrthfawr ffrwyth y ddayar, yn dda eu ymynedd am dano, hyd caffel o hono y glaw cynnar, ar diweddar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Byddwch ymarhöus, gan hyny, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, yr amaethydd sy’n disgwyl am ffrwyth gwerthfawr y ddaear, yn ymarhöus am dano nes derbyn o hono y gwlaw cynnar a’r diweddar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Byddwch hir-ymarhöus ynteu, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, disgwyl y mae’r llafurwr am werthfawr ffrwyth y ddaear, gan hir-ymaros amdano, hyd oni chaffo’r glaw cynnar a’r diweddar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae'r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, frodyr a chwiorydd annwyl, byddwch yn amyneddgar wrth ddisgwyl i'r Arglwydd ddod yn ôl. Meddyliwch am y ffermwr sy'n disgwyl yn amyneddgar am law yn yr hydref a'r gwanwyn i wneud i'r cnwd dyfu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae'r ffermwr yn aros am gynnyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i'r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Byddwch ymarhous, gan hynny, frodyr, hyd Ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, yr amaethydd sydd yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn ymarhous am dano nes iddo dderbyn y gwlaw cynnar a'r diweddar.