James 5:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na wnewch ddim tuchan yn erbyn y gilidd, fym rodyr, val na bo barn arnoch: wele, may’r browdwr yn sefyll wrth y drws.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na’ch barner; wele, y Barnwr, o flaen y drws y mae’n sefyll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na thuchenwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na’ch barner; wele, y mae’r barnwr yn sefyll wrth y drws.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na'ch condemnier: wele, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch grwgnach am eich gilydd, frodyr a chwiorydd, neu cewch chi'ch cosbi. Mae'r Barnwr yn dod! Mae'n sefyll y tu allan i'r drws!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch ag achwyn ar eich gilydd, fy nghyfeillion, rhag ichwi gael eich barnu. Gwelwch, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na'ch barner; wele, y Barnwr yn sefyll o flaen y drysau.