Jeremiah 1:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwêl, heddiw y'th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd. Byddi'n tynnu o'r gwraidd ac yn chwalu, yn dinistrio ac yn bwrw i lawr, yn adeiladu ac yn plannu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd a thros y teyrnasoedd, i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr, i ddifetha ac i ddymchwelyd, i adeiladu ac i blannu."