Jeremiah 1:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Mi a welaf grochan berwedig, a'i wyneb tua'r gogledd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'r ail waith dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, "Beth a weli di?" Dywedais innau, "Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd."